Cymorth.com Llinellau Ffôn Cymraeg
Beth yw Menter Patagonia?
 
Prif Amcanion

•          Cyfleoedd i Gymdeithasu trwy’r Gymraeg

•          Cyfleoedd i unigolion astudio a gweithio yng Nghymru.

•          Cyfleoedd i unigolion o Gymru wneud gwaith Gwirfoddol yn y Wladfa efo’r Cynllun Dysgu Cymraeg ac efo’r Fenter Iaith.

•          Magu cysylltiadau, datblygu cyfleoedd sy’n cryfhau’r Gymraeg.

 

 

Beth yw Menter Iaith Patagonia?
Sefydlwyd Menter Iaith Patagonia ym mis Ebrill 2008 i  gefnogi'r cynllun dysgu sydd wedi bod mewn bodolaeth ers dros 10 ‘mlynedd bellach.

Sut all Menter Patagonia eich helpu yng Nghymru?
Meddwl ymweld â’r Wladfa?
Fe all Menter Patagonia eich helpu i ffeindio asiantaeth teithio sy’n gweithio trwy neu yn cefnogi’r  Gymraeg.  Os ydych chi am deithio’n annibynnol, beth am ofyn cyngor am lefydd i aros, llefydd i ymweld â beth i wneud yn ystod eich ymweliad? 
Ydych am i’ch ysgol neu grŵp cymunedol cysylltu gyda grŵp tebyg ym Mhatagonia?
Gyda’r oes fodern o gyfathrebu trwy e-bost, facebook a skype nid oes amser gwell i wneud cysylltiad gyda grwpiau ac ysgolion y Wladfa.  Cyfle i ddysgu mwy am hanes  Patagonia neu ymarfer eich Cymraeg……a Sbaeneg!!

Sut all Menter Patagonia eich helpu chi yn y Wladfa?
Ymweld â’r Wladfa am y tro cyntaf? Am wneud y mwyaf o’ch amser yn y Wladfa?
Cysylltwch gyda Swyddogion y Fenter trwy e-bost cyn neu ar ôl cyrraedd y Wladfa i dderbyn cyngor am  y llefydd gorau i aros yn Nyffryn Camwy a Chwm Hyfryd.  Darganfyddwch  pa weithgareddau cymdeithasol sy’n cymryd lle ac ym mhle, yn ystod eich arhosiad?  Mae’r bobl leol wrth ei bodd yn cwrdd â siaradwyr neu ddysgwyr Cymraeg o Gymru.

 

Ble i ollwng eich bagiau a’ch pen am noson neu ddwy?
Yr Andes – Esquel a Threvelin

Hostel Casa Verde, Los Alerces s/n Trevelin, Chubut
02945 480091-15506161
www.casaverdehostel.com.ar
casaverdehostel@ciudad.ar

Os ydych am aros yn Nhrevelin, dyma'r lle i chi. Caban pren mawr, cysurus gyda golygfeydd godidog dros fynyddoedd yr Andes. Fe gewch groeso cynnes tu hwnt wrth y teulu Moreno sydd yn creu awyrgylch hynod o gartrefol ac unigryw iawn. Cewch gysylltu gyda’r gymuned a’r atyniadau Cymreig yma, wrth i chi sgwrsio mewn i’r nos yn Gymraeg gyda Bibiana, a fydd yn gwneud yn siŵr bod eich arhosiad yno yn fythgofiadwy. Hostal enwog, sydd yn cael ei gyfri fel un o rhai gorau yn yr Ariannin yn ôl nifer o lyfrau teithio (Footprint a Lonely Planet). Cofiwch sicrhau eich gwely yn yr haf, gan fod yr hostel yn llenwi yn gyflym gydag ymwelwyr o Buenos Aires!

Hosteria La Chacra, Ruta 259 - Km. 5, Esquel
0054 (02945) 45-2802 / 3565
rinilachacra@ciudad.com.ar

Os ydych am aros yn Esquel, dyma'r lle i chi. Gwely a Brecwast cyfforddus a chartrefol iawn ar gyrion y dre. Fe gewch groeso Cymreig iawn gan y perchennog Rini Griffiths, sy’n gymeriad hoffus a lliwgar a fwy na hapus i’ch cynorthwyo yn ystod eich arhosiad yn yr ardal. Mae ganddi gysylltiadau agos gyda’r cymunedau Cymreig ac yn wybodus iawn am hanes y Cymry yn yr ardal. Wrth i chi sgwrsio dros y bwrdd brecwast gyda Rini, gallech feddwl eich bod chi adre yng Nghymru yn trafod y clecs lleol dros baned!

 

Hostel Casa Verde, Trevelin
Hostel Casa Verde, Trevelin

Menter Iaith Patagonia

Trevelin Esquel

Gaiman Trelew



Menter Patagonia
-