Eisteddfod Ddwl y Gaiman!
Gydag Eisteddfod y Bobl Ifanc ac Eisteddfod y Wladfa rownd y cornel, daeth cyfle’n ddiweddar i ddangos doniau tra gwahanol mewn eisteddfod go arbennig. Doedd hon ddim yn eisteddfod gyffredin, ond yn Eisteddfod Ddwl!
Daeth criw da i Gwalia Lân, a rhannwyd yn ddau dîm - ‘Tello’ a ‘Fontana’ – a thasg anodd iawn i’r beirniad, Nia Griffith, oedd dewis enillwyr o blith y cystadleuwyr gwallgof! Mae ’na bobl dawnus dros ben yn byw yn Nyffryn Camwy... Roedd hi’n syndod cynddrwg oedd y dehongliadau o ‘Calon Lân’ yng nghystadleuaeth y ‘Canu Gwaethaf’, a chystal oedd ambell un yn gallu adrodd fel rhai dros 100 oed! Ymhlith y cystadlaethau eraill oedd garglo ‘Sosban Fach’, dawnsio Tango, bwyta cracyrs, a diddorol oedd clywed ‘Calon Lân’ a’r ‘Mochyn Du’ yn cael eu cyflwyno ar ffurf Haca! Cafwyd dwy sgets ddifyr a gwahanol iawn ar y testun amserol ‘Y Lludw’, wrth i’r naill dîm estyn croeso Patagonaidd i’r ymwelydd digroeso, a’r llall yn portreadu perygl y lludw ar set ffilm. Daeth y cystadlu i ben gyda’r corau - ond yn hytrach na’r pedwar llais arferol roedd gofyn i’r cantorion ganu fel anifeiliaid! Roedd hi fel bod ar fuarth fferm wrth i sain defaid, ieir, gwartheg, cathod, cŵn, a moch ganu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’!
Trwch blewyn oedd yn gwahanu’r ddau dîm drwy'r nos, a’r canlyniad yn dibynnu’n llwyr ar y gystadleuaeth olaf, sef y gerdd. Roedd pawb yn brysur trwy gydol yr eisteddfod yn cyfansoddi cerdd i ddilyn y llinell gyntaf, ‘Nos Iau yn Gwalia Lân’. Cyhoeddodd y beirniad mai cerdd ‘Fontana’ oedd yn fuddugol, oedd yn golygu mai nhw hefyd oedd enillwyr yr eisteddfod!
Llongyfarchiadau i’r ddau dîm am fod mor ddwl!