DONIAU DI-RI YN Y DYFFRYN!

Wedi 'Steddfod Dwp yn yr Andes yr wythnos ddiwethaf, dyma fynd ati gyda Noson Doniau Di-ri yng Ngwalia Lan neithiwr. A son am sbort wrth i bawb ymuno yn yr hwyl! Ymysg y cystadlaethau gwelsom dalentau actio yn y gystadleuaeth 'Hysbyseb ar Hap', angerdd anhygoel yn 'Y Ddeuawd Meimio', a rhoddwyd sialens lenyddol i'r timau wrth iddynt fynd ati i orffen dwy limerig ddoniol. Dyma flas ar waith y beirdd yn ein plith:
Un noson fe welais wanaco,
A hwnnw'n un hollol wallgo',
Doedd dim byd i'w wneud,
Roedd rhaid i mi ddweud:
ROEDD O WEDI BOD YN SMYGU TYBACO!
Cewri'r De fu'r tim buddugol! Llongyfarchiadau mawr iddynt ar wneud ffyliaid llwyr o'u hunan!
Yn ystod y noson hefyd, cawsom ddathlu pen-blwydd Y Parch. (a'r arbenigwr ar yr organ geg) Tegid Roberts! Diolch i bawb am ddod a phen-blwydd hapus iawn, Tegid!

10/04/2010