Clwb Plant Trevelin

Fe aeth plant Clwb Plant Trevelin gydag Eluned i'r plaza yn Nhrevelin i gael hufen iâ yr wythnos hon. Roedd hi'n ddiwrnod hynod o braf a rhaid oedd manteisio ar y cyfle i gael côn hufen iâ cyn i'r tywydd oeri gormod! Roedd ganddyn nhw bob math o flasau - siocled, cnau, ffrwythau a'r hen ffefryn, dulce de leche!
10/05/2010





