BETHAN YN EIN GADAEL!

Mawr fydd y golled ar ol Bethan Locker, merch 21 oed o sir Gaerfyrddin sydd wedi bod yn gwirfoddoli yn y Gaiman am ddau fis. Mae hi wedi bod yn brysur yn helpu yn yr Ysgol Feithrin gyda'r athrawon a gyda Menter Patagonia yn y Clwb Ol-Feithrin.
Daeth Bethan yma i wella ei Sbaeneg gan ei bod yn astudio'r Ffrangeg a'r Sbaeneg yn y coleg yn Durham ac wedi manteisio ar fynychu dosbarthiadau Coleg Camwy a bod yn help mawr i'r athrawon yno hefyd.
Mae hi'n ein gadael ddiwedd yr wythnos hon i dreulio wythnos ym Muenos Aires cyn hedfan yn ôl i Gymru ac yna i Ffrainc i weithio fel 'au-pair' am fis. Rydym yn sicr am ei methu!
POB LWC YN DY FLWYDDYN OLAF YN Y COLEG, BETHAN, A BUEN VIAJE!

15/05/2010