'Noson Gyfnewid' yn Trevelin

Ar noson oer iawn ddechrau'r wythnos, daeth trigolion Trevelin ynghyd i gymryd rhan mewn 'Noson Gyfnewid' (trueque). Cyrhaeddodd bawb gyda'u heitemau ac fe dderbynion nhw docyn 'Cyfnewid' yn gyfnewid am eu pethau (un i bob eitem). Ar ôl cael llond bola o empanadas hyfryd Mónica a digon o dê i gynhesu, roedd hi'n amser i bawb fynd at y bwrdd i edrych o gwmpas a chyfnewid eu tocynnau am eitemau. Roedd yn gyfle gwych i gael gwared ar bethau nad oedd eu hangen mwyach a'u cyfnewid am bethau gwahanol, newydd a hynny yn rhad ac am ddim! Cyn ei throi hi am adref, fe wnaeth Alejandro Jones (a rhai ohonom ni hefyd!) ganu detholiad o ganeuon Cymraeg a Sbaeneg. Diweddglo hyfryd i noson fach lwyddiannus iawn.


09/06/2010





