Tê yn 'Blasus', Esquel

Brynhawn Dydd Sul, aeth criw ohonom ni i Dŷ Tê 'Blasus' yn Esquel (ac oedd, mi'r oedd yn flasus iawn!) er mwyn dymuno pob lwc i Sandra a fydd yn cychwyn ar ei thaith i astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yr wythnos hon. Mae Liliana eisoes ym Muenos Aires yn barod i fynd! Roedd hi'n hyfryd gwrando ar athrawon Ysgol Gymraeg yr Andes, Esquel yn siarad am y cyfnod pan fuon nhw'n astudio yn Llambed/Caerdydd ac hefyd wrth iddyn nhw rannu tips ynglŷn â'r llefydd gorau iddi hi siopa bwyd! Fe fydd y ddwy yn cael amser bythgofiadwy dw i'n siwr. Buen viaje!
Eluned Owena Evans
Eluned Owena Evans
22/06/2010





