Meicro Eisteddfod y Gaiman

Bu Meicro Eisteddfod y Gaiman yn lwyddiant mawr eleni a bu Helen a minnau yn beirniadu'r adrodd gyda fflyd o blantos yn cystadlu!
Cafodd yr Eisteddfod ei threfnu gan griw ifanc Coleg Camwy. Mae'r criw a minnau ar fin dechrau sgriptio ffilm fer y byddwn yn gweithio arni yn ystod gweddill y flwyddyn ac roeddwn yn falch iawn o weld eu gwaith hynod o broffesiynol yn yr Eisteddfod. Llongyfarchiadau iddyn nhw!
Eluned Owena Evans

23/06/2010