Croesawu Dafydd Huw Davies

Fe wnaeth bawb fwynhau cwmni Huw yn yr Andes yr wythnos hon. Mae Huw wedi bod yn gweithio fel athro ym Mecsico ac yn gwbl rhugl yn y Sbaeneg ac fe benderfynodd alw i'n gweld ni yma ym Mhatagonia ar ei ffordd adre i Gymru. Y mae wedi bod yn mynychu gwersi Cymraeg Eluned, wedi cyfarfod a nifer o'r bobl leol, wedi bod yn sgio yn La Hoya ac wedi dod i'n hymarferion dawnsio gwerin. Mae un peth yn sicr, mae mwy o siap arno'n dawnsio nag Eluned! Dyma Huw yn son am ei wythnos gyda ni:
"Ers y tro cyntaf i mi glywed am y gymuned Gymreig yn yr Ariannin dw i wedi bod yn dychmygu pa fath o le yw’r rhan fach hon o Gymru sydd ochr arall y byd. Am tua’r dair mlynedd ddiwethaf dw i wedi bod yn breuddwydio am deithio i waelod De America i ddod gartref. Dw i wedi bod yn meddwl am gyrraedd gwlad ddieithr ond wrth gydfyw gyda fy mhobl, siarad fy mamiaith, yfed tê a bwyta cacennau Cymreig.
Dw i wedi cael croeso cynnes dros ben gan bob Williams, Jones ac Evans yn Esquel a Trevelin. Mae hi wedi bod yn anhygoel o ddiddorol dysgu am hanes y gymuned Gymreig yma yn yr Andes. Rhwng amgueddfa wych Trevelin a straeon bobl y dref dw i wedi cael gwir deimlad o sut oedd bywyd yma i’r Cymry cyntaf.
Dw i wedi gweld gwaith caled athrawon yr ardal i gadw iaith a thraddodiadau’r ardal yn fyw. Mae eu gwaith caled nhw gyda’r bobl ifanc wedi fy mhlesio’n ofnadwy gan fod dyfodol yr iaith Gymraeg yn eu dwylo nhw.
Ond mae hi’n glir bod athrawon yr ardal angen cymaint o gymorth ag sy’n bosib. Dw i fy hun yn benderfynol o roi gymaint o sylw ag a fedraf i’r gymuned Gymreig yma, er mwyn casglu arian ac adnoddau ar gyfer yr holl bobl sydd yn gweithio mor galed i gadw rhan fawr o hanes Cymru yn fyw".

17/08/2010