Penblwydd Y Gaiman!

Ddydd Sadwrn, roedd Y Gaiman yn dathlu ei benblwydd yn 125 oed a bu gorymdaith fawreddog trwy'r stryd fawr yn y bore ble cawsom gyfle i arddangos Draig Goch Enfawr plant ol-feithrin y Gaiman am y tro cyntaf un! Roedd yr holl dorri cardfwrdd, rhwygo papur newydd, y gludo a'r paentio werth bob eiliad wrth weld y plant wrth eu boddau!
Yn ogystal, rwyf wedi bod yn brysur ers pythefnos yn creu a phaentio 'Galensa' anferth (dynes Gymreig o'r Wladfa yw Galensa!), a hynny gyda Lucia, athrawes ymarfer corff yr Ysgol Feithrin a gyda phlant Ysgol Anghenion Arbennig y Gaiman. Aethom a hi am dro gyda ni ddydd Sadwrn gyda fflyd o fodelau eraill a grewyd gan holl ysgolion yr ardal.
Roedd bwrlwm mawr a hwyl a sbri ymysg y 'gauchos' ar eu ceffylau, y band pres yn chwarae,y dawnswyr tango ac roedd yn bleser bod yn rhan o'r diwrnod! Diolch o galon i'r plant i gyd am eu gwaith caled iawn yn adeiladu'r ddraig a'i chario ddydd Sadwrn wrth gwrs! Penblwydd Hapus, Gaiman!

18/08/2010