Ffarwel Nant a Tegid
Bydd y golled yn anferth yn y Dyffryn ar ol ymadawiad Tegid a Nant yr wythnos hon. Bu'r ddau yn gweithio yma yn ein plith am flwyddyn gron.
Bu'r Canon Tegid Roberts yn gweinyddu yn y capeli lleol ac yn gefn anferth i'r gymuned wrth iddo ymweld a nifer o'r trigolion a chefnogi pob gweithgaredd yng nghymdeithas Gymraeg ardal y Gaiman a Threlew. Roedd ei grap ar Sbaeneg hefyd yn un i'w ganmol! Bydd Ysgol yr Hendre ac Ysgol Feithrin y Gaiman yn colli athrawes gynradd weithgar iawn hefyd - bu Nant yn gweithio'n brysur yn y ddwy ysgol, yn ogystal a gweithio yng Ngholeg Camwy y llynedd.
Wedi dwy noson ym Muenos Aires, bydd y ddau yn hedfan yn ol i Gymru i fwynhau bod yn Nain a Thaid am y tro cyntaf i'w hwyres fach, Gwen Elin.
Hoffwn ddiolch o waelod calon am yr holl gefnogaeth a roddodd y ddau i weithgareddau Menter Patagonia ac i mi yn bersonol yn ystod eu cyfnod yma.
Tan tro nesaf, Nant a Tegid! 'Dan ni'n eich methu yn barod!

26/08/2010