CROESO I'R GWANWYN

Yma yn yr Ariannin mae hi'n wyl y banc ar y 21ain o Fedi er mwyn dathlu diwrnod cyntaf y Gwanwyn ac aeth plant ac athrawon Ysgol Feithrin y Gaiman a minnau i ddathlu ar y fferm gyda phicnic!
Cawsom helfa drysor o amgylch fferm El Ceibo gan chwilio am ddail, pryfed, blodau ac yna sillafu'r gair 'Gwanwyn' gyda'n cyrff! Grwp Oren enillodd yr helfa, ond da iawn i'r plant i gyd am eu hymdrech!
Gwelsom nifer fawr o anifeiliaid ar y fferm gan gynnwys geifr, ffesantod, brithyll, ieir, defaid a gwartheg!
Croeso Mawr i'r Gwanwyn yn wir!

22/09/2010