Ffilm fer Coleg Camwy

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Helen a minnau wedi bod yn gweithio'n brysur gyda chriw arddegau Camwy i baratoi ffilm fer, yn y gobaith iddi gael bod yn rhan o gystadleuaeth arbennig ym Muenos Aires. Braf iawn fel cyn is-gynhyrchydd teledu yw cael rhoi fy nghreadigrwydd i waith gyda'r pobl ifanc!
'Chwedlau' yw teitl y ffilm ddu a gwyn ac mae hi wedi ei ffilmio yn y coleg ac mewn gwahanol lecynnau yn y Gaiman.
Ffilm arswydus yw hi am ddosbarth o bobl ifanc yn adrodd chwedlau cyn mynd ar daith ysgol i gartref merch wallgof i weld tystiolaeth bod gwirionedd i rai chwedlau! Ond, beth yn union y maent yn dod ar ei draws?!
Buom yn lwcus iawn i gael Elen Thomas, athrawes drama o Gymru yn ymweld a ni a rhoi syniad i'r criw am sut i ddechrau meddwl am eu cymeriadau. Bu hon yn sesiwn hwyliog iawn! Diolch o galon i Elen a'i chwaer, Nia am yr help!
Bydd y ffilm ar y we yn fuan!

14/10/2010