Croeso!

Mae criw Taith yr Urdd 2010 wedi gadael bellach......ond mae dau ar ol!! Hoffwn estyn croeso cynnes iawn i Ilid Haf a Guto Gwilym a fydd yn gwneud gwaith gwirfoddol gyda ni yma'n yr Andes am y chwe wythnos nesaf. Mae Ilid, 18, yn dod o Gaerdydd ac mae'n gyn ddisgybl Ysgol Glantaf lle wnaeth hi astudio Cymraeg, Ffrangeg ac Addysg Grefyddol. Mae'n hoffi coginio, gwrando ar gerddoriaeth a gwylio ffilmiau. Mae hi am fanteisio ar y cyfle i ddysgu Sbaeneg tra'i bod hi yma ac wedi dysgu tipyn yn barod! Daw Guto (Guillermo), 18, o Lambed ac mae'n gyn ddisgybl Ysgol Dyffryn Teifi. Astudiodd Busnes, Drama a Seicoleg a gyfer ei Lefel A ac mae am fynd i Brifysgol Bangor i astudio Seicoleg flwyddyn nesaf. Y mae yntau hefyd yn hoff iawn o goginio a cherdded. Croeso cynnes iawn i chi a que disfruten!!

05/11/2010





