Ffarwel i'r Dyffryn

Wel, daeth fy nghyfnod yn y Dyffryn i ben rai dyddiau yn ol bellach - ac ers hynny rwyf wedi bod yn yr Andes! Cafodd griw chweched dosbarth Coleg Camwy y Gaiman a minnau goblyn o hwyl yma yn ystod eu taith diwedd blwyddyn i Drevelin yr wythnos diwethaf, a ba ffordd well i ddiweddu fy mlwyddyn innau - yn dringo'r Graig Goch gyda'r rifleros a hwythau, yn chwarae gemau yn y wersyllfa a mynd ar deithiau di-ri yn y 'cordillera'!
Diolch o galon iddyn nhw am yr holl hwyl!
Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi cefnogi Menter yn y Dyffryn eleni - o blant bach Ysgol Feithrin y Gaiman, plant Dolavon a phlant yr Hendre hyd at arddegau Camwy ac yr oedolion a ddaeth i bob un o'm nosweithiau cymdeithasol yn Nhrelew, y Gaiman a Phorth Madryn. Bu'r partion bach ffarwel ym mhob un o'r llefydd hyn yn hyfryd!
Diolch o galon a ffarwel!
Llinos

06/12/2010