Lois Dafydd

Helo! Lois Dafydd ydw i. Ar hyn o bryd dwi’n brysur yn paratoi ar gyfer dod i’r Wladfa gyda Menter Patagonia, ac yn edrych ymlaen yn fawr at weithio a byw gyda thrigolion y Dyffryn. Dwi’n wreiddiol o Bow Street ger Aberystwyth, ond wedi treulio’r ddwy flynedd diwethaf yn gweithio gyda chwmni teledu ITV yng Nghaerdydd. Bues i yn y brifysgol yno hefyd, gan raddio mewn Cymraeg cyn gwneud blwyddyn o ymchwil. Dwi’n ymddiddori mewn amryw feysydd, sy’n cynnwys chwaraeon a cherddoriaeth o bob math, llenyddiaeth, coginio, teithio a chymdeithasu. Felly dwi’n edrych ymlaen at gyfrannu mewn amryw ffyrdd at fywyd y Dyffryn trwy gyfrwng y Gymraeg. Hasta luego!
18/02/2011





