Lois yn Cyrraedd Dyffryn Camwy

Mae ychydig dros dair wythnos ers i fi ddisgyn y bws ‘coche cama’ yng ngorsaf fysiau Trelew erbyn hyn. Dwi wedi bod yn brysur gyda’r gwaith yn Nyffryn Camwy ers y cychwyn cyntaf, ac wedi cwrdd â nifer fawr o drigolion Trelew a Gaiman yn ystod yr amser prin hwnnw – dwi’n dal i gael trafferth cysylltu enwau gydag wynebau! Diolch i bawb am y croeso a’r gymdeithas dwi wedi’i brofi hyd yn hyn – dyw hi ddim wedi cymryd llawer o amser i fi deimlo’n gartrefol yma, a dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at y misoedd cyffrous nesaf!
19/03/2011





