Croeso mawr yng Nghwm Hyfryd

Dwi wedi bod yma yn yr Andes ers wythnos bellach, a dwi wedi cael croeso gwych. Cefais te croeso yn Esquel ac yn Nhrefelin. Roedd y byrddau yn berwi gyda chacenau blasus, a chefais flasu jam llaeth am y tro cyntaf. Mi fyddaf yn mynd yn ôl i Gymru’n dew! Braf oedd cael cyfarod a sgwrsio chydig gyda phawb, ac edrychaf ymlaen i ddod i adnabod pawb yn well.
Nos Sadwrn cafwyd premier y ffilm ‘Separado’ yma yn Esquel. Doeddwn i ddim yn gwybod fy mod yng nghwmni’r fath enwogion. Roeddwn yn adnabod amryw o’r wynebau yn y ffilm. Diddorol oedd gweld ymateb y gynulleidfa i’r ffilm, chwerthin ac ochenaid pan symudodd Gruff y bombilla wrth yfed mate.
Rwy’n edrych ymlaen i gychwyn rhai o weithgareddau’r fenter yn iawn wythnos nesaf.

28/03/2011