Cychwyn!

Rydym wedi cael wythnos hyfryd yma yn Esquel a Threvelin. Nos Lun roedd y Clwb Darllen cyntaf, ac roeddem ddigon lwcus i gael Cynog Davis a Gareth Miles fel siaradwyr gwadd. Fe wnaethom ddysgu llawer am y refferendwm diweddar yng Nghymru, ac am rai o weithiau Gareth Miles a'i ddiddordeb yn y Wladfa.
Ddydd Sadwrn fe aethom am dro fyny'r Graig Goch, gyda'r Clwb Cerdded. O'r fan honno gwelodd y Cymry Gwm Hyfryd am y tro cyntaf. Roedd y llwybr yn serth ac roeddem wedi'n gorchuddio mewn abrojos, ond y cyntaf i gyrraedd y copa ac yngan "Dyma gwm hyfryd!", oedd Alwen Green. Cawsom hwyl yn disgyn a llithro lawr y llethrau i'r gwaelod, lle'r oedd te a chorros yn disgwyl amdanym!

04/04/2011