Cynog Dafis a Gareth Miles

Cafwyd noson ddifyr yng nghwmni Cynog Dafis a Gareth Miles yn Gaiman yn ddiweddar. Roedd y ddau yn ymweld â Phatagonia gyda’u gwragedd, Llinos Dafis a Gina Miles, ac yn ddigon caredig i roi sgwrs yn Salon Cultural dref ar yr 21ain o Fawrth.
Hanes datganoli a’r Cynulliad oedd testun sgwrs Cynog Dafis, oedd yn addas iawn ychydig wythnosau ers y refferendwm yng Nghymru, a diwrnod yn unig ar ôl etholiadau Chubut. Cododd nifer o gwestiynau o’r llawr, oedd yn gyfle i ddysgu mwy am yrfa gwleidyddol y siaradwr.
Rhoddodd Gareth Miles ei hanes fel awdur, gan sôn am yr hyn sydd wedi dylanwadu arno ar hyd y blynyddoedd – o wleidyddiaeth i grefydd, a chymdeithas i iaith. Soniodd am amryw o’i weithiau - ar bapur ac ar y sgrin – a braf oedd gweld Carlos D. Ferrari sef awdur, El Riflero de Ffos Halen, a gyfieithiwyd i’r Gymraeg gan Gareth Miles – Y Gaucho o Ffos Halen.
Roedd hi’n braf gweld rhyw 30 wedi dod o Gaiman a Threlew i wrando ar y sgyrsiau. Ac i gloi’r noson, cyflwynodd Ricardo Iranni gopi o’i lyfr 1865 i’r ddau er mwyn iddyn nhw gofio’r digwyddiad.
Ry’n ni’n ddiolchgar iawn i Cynog Dafis a Gareth Miles am eu cyfraniad, ac roedd hi’n fendigedig treulio amser gyda nhw a’u gwragedd yma yn y Dyffryn. Mawr obeithiwn iddyn nhw fwynhau gweddill eu hamser yn y Wladfa, a siwrne ddiogel i’r pedwar nôl i Gymru.

23/03/2011