Noson Lawen

Neithiwr cawsom y pleser o gael cwmni Tour de Force, yn ogystal â thalentau lleol. Grŵp o dri actor ydynt – Llinos Daniel, Adrian Metcalfe a Sonia Beck, o Abertawe. Maent wedi bod ar daith yma yn Ne America ac wedi perfformio yn Montevideo Uruguay, Buenos Aires ac yma yn Esquel. Cawsom awrywiaeth o alewon gwerin, caneuon a darnau o ‘Dan y Wenallt’ a darnau o ‘Portrait of an Artist as a young dog’.
Roedd ambell wyneb cyfarwydd yn perfformio hefyd. Canodd Vincent Evans ei accordion, adroddodd Alwen Green ychydig o farddoniaeth, gwelsom rai o luniau Arturo i gyfeiliant ei gerddoriaeth, canodd Fresia Silva ambell gân a chwaraeodd Alejandro Jones ei gitar a chanu mewn Cymraeg a Sbaeneg. Diolch yn fawr iddynt i gyd.
Ar y diwedd roedd digon o empanadas, pitsa, a checenau a chyfle i siarad gyda ambell wydriad o win. Noson hwyliog a gwledd i’r llygaid, glust ac i’r emosiynau.

07/04/2011