Clwb Cerdded

Bellach mae lliwiau’r coed wedi newid ac mae’r Hydref wedi cyrraedd y cwm. Mentrodd criw ohonom allan brynhawn ddoe, i fynd am dro a chael cyfle i sgwrsio. Aethom am dro at y pistyll ar fferm Pennant.
Roedd hi’n antur darganfod ein ffordd o gwmpas y rhosod gwyllt, chwylio am fadarch, a llamu dros nentydd. Roedd Gorsedd y Cwmwl i’w weld yn hardd, gyda’r eira ar y copa’n wyn, y coed lenga îs lawr yn goch a’r coed ar droed y mynydd yn wyrdd – tebyg i faner Cymru. Braf oedd cael gorffwys am ychydig yn ymyl y pistyll a thorri ein syched wrth yfed o ddŵr ffres yr nant.
I goroni’r cwbl, cawsom de, mate a phob math o gaceni ar y fferm ar ddiwedd y daith. Diolch yn fawr!

18/04/2011