Sesiwn Drama Arbennig

Wythnos diwethaf cafodd y plant yng Nghlwb Drama Trevelin y fraint o gael sesiwn gan Tim Baker, cyfarwyddwr Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Fe chwaraeodd y plant gemau ac ymarferion ar gyfer y theatr. Roedd y temtasiwn yn ormod - ar ôl edrych am ychydig roedd yn rhaid i mi (Iwan) ymuno yn yr hwyl. Roedd yno lawer o hwyl a chwerthin, yn arbennig pan oeddem yn gwneud camgymeriadau gwirion. Sesiwn bywiog - diolch yn fawr Tim.
02/05/2011





