Noson 中国 Gwawr

Cafwyd cyfarfod cyntaf Clwb Gwawr Trevelin nos wener. Roedd Margatita Green wedi bod yn brysur yn paratoi danteithion o China a Japan – chow mein, sushi a llawr mwy. Ar ôl cael arddangosiad o sut i ddefnyddio chopsticks aeth pawb ati i fwyta’r bwyd. Roedd rhai yn llwyddiannus a bu rhaid i rai ddefnyddio fforc, neu llwygu fyddai eu hanes. Roedd rhai erioed wedi blasu rhai o’r bwyd, ond fe wnaeth pawb ei fwynhau. Ond nid oedd neb yn hoff iawn o’r wasabi, er i Alwen geisio gwneud pawb ei brofi. Cawson wers Cheiniaidd, a dysgu gall “ma” olygu sawl peth: 媽 (mā) - mam, 麻 (má) - hemp, 馬 (mǎ) -ceffyl a 罵 (m ) - dweud y drefn. Fe wnaethant ddysgu sut i gyfarch, cyflwyno eu hunain, a chyfri o un i ddeg. Derbyniodd pawb docyn raffl oedd wedi ei lapio mewn papur coch (mae anrhegion yn cael eu lapio mewn coch yn China). Deuddeg oedd un o’r rhifau buddigol (neu 十二). Ceisiodd Eli a Mary gyfuno rhifau’u dwy, un a dau, er mwyn ennill, ond Irma enillodd, a Nita â enillodd yr ail wobr. 谢谢 Xièxiè i bawb.
Rhag ofn bod y plant yn methu allan, yn y clwb plant fe wnaethom creu baneri gyda chymeriadau Cheiniaidd o anifeiliaid arnynt.
Rhag ofn bod y plant yn methu allan, yn y clwb plant fe wnaethom creu baneri gyda chymeriadau Cheiniaidd o anifeiliaid arnynt.


24/05/2011





