Cerdded i Lyn Brychan

Er ei bod hi bron yn ddiwedd mis Mai, fe aethom allan i gerdded i Lyn Brychan. Roeddwn i wedi gwisgo dwy got, menig, sgarff, a chap, ond ar ôl cerdded ychydig roeddwn wedi lluchio bob dim yn ôl i’r bag. Roedd yr haul yn tywynnu, ac roedd ei lewyrch yn teimlo’n hyfryd o gynnes. Ar ôl cerdded yn hamddenol, a dringo dros giatiau, fe gyrhaeddom y llyn. Roedd yr olygfa’n odidog, gyda’r bryn yn cael ei adlewyrchu fel drych yn y llyn. Cawson ysbaid fach a bwyta ychydig o gacen banana Mary, tra’r oedd y plant yn ceisio pysgota gyda rhwyd oeddynt wedi ei ganfod ar y lan. Diwrnod hyfryd. Rwy’n edrych ymlaen at fynd i gerdded eto ar ôl gwyliau’r gaeaf pan fydd y tywydd wedi cynhesu rhywfaint.
29/05/2011





