Zara´n helpu gyda’r plant

Daeth Zara Walker i’r Andes am chydig o ddiwrnodau ddiwedd wythnos diwethaf. Mae hi’n wreiddiol o Gaerdydd ac wedi dod i’r Dyffryn i wirfoddoli am fis. Mae hi’n astudio seramig yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, a thra oedd hi yma manteisiom ar ei thalentau creadigol gyda’r plant. Yn y clwb plant yn Nhrevelin fe wnaeth Zara a’r plant greu clai, o flawd, halen, olew a dŵr. Roedd yno lot o lanast, ond dyna hanner yr hwyl. Creasant botiau, pili-pala, empanadas, a blodau. Diwrnod nesaf yn y clwb plant yn Esquel fe fu Zara a’r plant yn greadigol unwaith eto gyda paper mache. Gludiasant sawl haen ar falwnau, er mwyn creu balwnau caled. Rwy’n edrych ymlaen at eu peintio wythnos nesaf. Dyma lun o Zara yn profi mate ar ôl y clwb cerdded. Nid oedd hi’n rhy hoff o fate ar ben ei hun, ond yn eithaf hoffi o gydag ychydig o siwgr.

30/05/2011





