Y Ffair Lyfrau

Wel, am benwythnos prysur – penwythnos y Ffair Lyfrau yn y Gaiman. Cawson ni stondin ar y cyd gydag Ysgol Feithrin Gaiman a Dosbarthiadau Cymraeg Patagonia mewn lleoliad gwych iawn drws nesaf i'r llwyfan. Buon ni’n brysur yn ei gosod a’i haddurno gydag arwyddion, balŵns a lluniau – roedd hi’n lliwgar tu hwnt, a nifer fawr o bobl wedi dod draw am dro. Roedd cyfle i blant ddod i liwio lluniau o Sali Mali, Jac y Jwc, Smot, a’r Ddraig Goch, darllen llyfrau, a chael eu hwynebau wedi’u paentio. Roedd hefyd arddangosfa o lyfrau Cymraeg, gwaith plant yr Ysgol Feithrin, a lluniau’r gwahanol ddosbarthiadau a gweithgareddau sy’n cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Wladfa. A daeth Iwan draw o’r Andes i gynnig help llaw! Cawson ni lawer o hwyl gyda’r plant - yn chwarae gêmau, paentio wynebau, a lliwio – ac roedd hi’n fendigedig gweld plant bach Patagonia yn cerdded o amgylch y Ffair Lyfrau yn gwisgo sticeri Sali Mali!

13/06/2011





