Diwrnod y Llyfr

Cafwyd amser arbennig yn Ysgol Feithrin y Gaiman ar Ddiwrnod y Llyfr. Gwisgodd nifer o’r plant yn arbennig at yr achlysur, yn eu plith Eira Wen, Zorro, arth wen, Ben 10, tywysoges, a thylwythen deg. Roedden nhw’n edrych yn ardderchog! Daeth y plant â’u hoff lyfrau gyda nhw i ddangos i weddill yr ysgol, a darllenwyd un llyfr Cymraeg ac un llyfr Sbaeneg gyda’n gilydd. Mwynheuodd pawb wrando am antur Mali’r llygoden a’r trên, ac yna stori’r mochyn bach yn bwyta llysiau. Bu’r plant hefyd yn adrodd ac yn canu i gloi amser gwych a lliwgar gyda’n gilydd.

16/06/2011





