Ymweliad Rhiannon Williams
Roedd Rhiannon Williams, a Huw ei gŵr, wedi dod yma i Dde America ar eu mis mêl. Yn garedig iawn roedd Rhiannon wedi cynnig perfformio darn o’i pherfformiad ar ei hatgofion o’r capel, a oedd hi wedi ei wneud ar gyfer ei Phd. Yng Nghapel Bethel Trevelin cawsom wasanaeth arbennig iawn. Ar ôl canu ambell emyn perfformiodd Rhiannon ei sioe. Roedd yn tanio rhai o atgofion y gynulleidfa o’u profiadau hwy o’r capel, gan fod nifer o’r profiad yr un peth neu’n debyg iawn. Er nad oedd pob aelod o’r gynulleidfa yn siarad Cymraeg, roeddynt yn gallu deall rhywfaint drwy’r ystumiau oedd Rhiannon yn ei wneud. Aethom i gael te yn nhŷ’r ysgol, i gael sgwrs wedi’r gwasanaeth, er mwyn cael holi mwy ar Rhiannon a Huw, a mwynhau ambell gacen.
Perfformiodd Rhiannon y darn eto yng Nghapel Seion, Esquel. Roedd hi’n braf cael gweld y perfformiad eto, ac roeddwn yn sylwi ar bethau nad oeddwn wedi y tro cyntaf. Unwaith eto roedd y perfformiad yn gwneud i bawb feddwl am eu profiadau nhw. Gan fod y perfformiad yn rhan o’r clwb drama, wedi i ni wylio’r perfformiad, fe wnaeth Rhiannon weithdy. Yn y gweithdy roeddem yn defnyddio ein profiadau a’n hatgofion ni er mwyn creu rhywbeth. Fe wnaeth pawb fwynhau yn arw, ac ryw’n edrych mlaen i barhau i ddefnyddio atgofion i greu drama yn y clwb drama wythnos nesaf.

13/09/2011