Codi Arian Tuag Prosiect Patagonia

Mae James Williams, sy'n mynd i weithio ar brosiect hybu'r iaith Gymraeg yn Esquel a Threfelin, Patagonia, yn rhedeg Marathon Llundain i godi arian i'r prosiect.
Yn gyn disgybl o Ysgol Gymraeg Llantrisant ac Ysgol Gyfun Llanhari, ac yna wedi graddio o Brifysgol Morgannwg gyda gradd yn Systemau Gwybodaeth. Mae James wedi gweithio i’r Urdd am dros 6 mlynedd. Roedd yn Swyddog Datblygu dros ardal Caerdydd a’r Fro rhwng 2002-2007 cyn symud ymlaen i weithio fel Swyddog Addysg yng Ngwersyll Yr Urdd, Llangrannog.
Yn ei amser hamdden mae James yn mwynhau amryw o weithgareddau awyr agored. Mae ei diddordeb yn Mynydda, Byrddio eira a Syrffio wedi arwain at deithiau o amgylch y byd.
Er mwyn codi arian (ac ymwybyddiaeth) am y prosiect newydd yma, mi fydd James yn rhedeg Marathon Llundain ym mis Ebrill. Os hoffech chi ddangos eich cefnogaeth tuag at y fenter newydd yma, yna plîs cyfrannwch wrth ymweld ag www.justgiving.com/jameswilliams2 neu e-bostiwch jrhyswilliams@hotmail.com am rhagor o wybodaeth.

13/02/2008