Trevelin yn dathlu Penblwydd y dre
Ar y 25 o Dachwedd dan awyr las a heulwen braf death trugolion Trevelin allan i ddathlu pen-blwydd y dre. Roedd hi’n 123 o flynyddoedd ers i Rifleros Fontana cyrraedd y Graig Goch uwchben cwm Hyfryd am y tro cyntaf. Fel rhan o ddathliadau Penblwydd y dre fe aeth dros 60 o drigolion Trevelin ar gefn ceffylau i ben y graig Goch. Wedi gwisgo yn wisgoedd traddodiadol y Rifleros, a nifer yn ddisgynyddion o’r arloeswyr gwreiddiol, roedd hi’n olygfa anhygoel. Roedd nifer o siaradwyr Cymraeg hen ac ifanc yr ardal ymysg y grŵp, a allech glywed Trefor Williams, John Davies, Ellis Williams a Glenda Powell yn sgwrsio yn Gymraeg. Yn dilyn y daith i ben y graig Goch, cafwyd Asado wrth ymyl ysgol 18 (Yr ysgol Gymraeg Cyntaf yng Nghwm Hyfryd) wrth i’r ceffylau orffwys ar ôl y daith y daith hir o dros 15 milltir.
Yn orymdaith flynyddol y dre y bore wedyn, roedd cynrychiolaeth gryf gan ysgol Gymraeg Trevelin. Wedi gwisgo yng ngwisgoedd traddodiadol Cymreig, ac o dan arweiniad athrawon ifanc yr ysgol; Jessica Jones, Eliana Olivier ac Esaia Grandis roedd y plant yn cerdded trwy strydoedd Trevelin gyda baneri Cymraeg a balchder yn hanes y dref.
I gloi'r dathliadau fe gynhaliwyd cyngerdd mawr yn y Salon Central Trevelin. Clywyd corau Esquel a Threvelin ynghyd a pherfformiadau gan grwpiau dawnsio gwerin Trevelin a Coleg Camwy sydd wedi bod yn ymweld â’r ardal a mwynhau'r dathliadau pen-blwydd.
Penblwydd Hapus iawn i Drevelin!!

27/11/2008