Dysgwraig y Flwyddyn yn Cyrraedd yr Andes i wirfoddoli

Ar ôl darllen hysbyseb Menter Patagonia ar y wefan, mi wnaeth Madison Tazu cysylltu gyda James Rhys Williams, Swyddog y Fenter i holi am fwy o wybodaeth. Ac ar ôl nifer o e-byst, mae Madison wedi cyrraedd Trevelin. Mi fydd Madison yn treulio cyfnod yn gwirfoddoli yn yr ysgolion a dosbarthiadau Cymraeg yn yr Andes.
Mae’n awyddus iawn i gynorthwyo yn yr Andes gyda’r dosbarthiadau Cymraeg, gan eu bod yn ddysgwriag ei hun, a wnaeth dysgu’r Gymraeg dim ond llynedd, yr un flwyddyn enillodd teitl Dysgwraig Y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd;
“ Dwi ddim yn gallu credu faint o Gymraeg rwyf wedi siarad o gwmpas Trevelin yn fy nyddiau cyntaf yma i feddwl fy mod i mor bell o Gymru. Rwyf yn edrych ymlaen at y misoedd nesaf yn fawr iawn gan obeithio lledu’r neges am yr iaith Gymraeg, ac ysbrydoli eraill i ddysgu’r iaith ”
Yn y llun mae Clare Whitehouse, Eliana Olivier a Esias Grandis (tiwtoriaid yn yr Andes) James Rhys Williams, Swyddog Menter Patagonia Yr Andes yn croesawu Madison Tazu i’r Andes.

15/03/2009