James yn ffarwelio

James yn ffarwelio â’r Andes…Ond ar gael am sgwrs…
Mae wedi bod yn flwyddyn fythgofiadwy allan yma yn yr Andes, ac rwyf wedi gwneud ffrindiau am oes. Mi hoffwn ddiolch i bawb, boed ym Mhatagonia neu yng Nghymru sydd wedi fy nghynorthwyo yn ystod fy nghyfnod fel swyddog Menter Iaith Patagonia yr Andes. Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser cael cydweithio gyda thrigolion yr Andes dros y 10 mis diwethaf. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i Fenter Iaith Patagonia am y dyfodol, ac rwy’n credu’n gryf yn ei fodolaeth ar ôl gweithio yma, gan rwy’n gallu gweld y dylanwad cafodd y gwaith ar yr ardal a’r trigolion.
Ond nawr rhaid dychwelyd i Gymru fach, ac os mae gan rywun diddordeb rwyf ar gael i sgwrsio gyda’ch mudiad lleol, boed yn Merched Y Wawr, Cymdeithas y Capel neu yn gymdeithas yn y pentref, noson ffurfiol, anffurfiol, dwi’n hyblyg iawn, a fyddem yn gofyn am gyfraniad bach i’r Fenter. Os ydych am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda James Rhys Williams trwy e-bost; jrhyswilliams@hotmail.com
Lluniau
James yn ffarwelio gyda’i dosbarth cyfrifiaduron yn Esquel
Hwyl a diolch i diwtoriaid a phlant ysgol Gymraeg Trevelin

19/03/2009