Ymwelwyr o Gymru

Dros benwythnos ym Mehefin, daeth ymwelwyr cyntaf o Gymru i’n ngweld i yma yn y dyffryn. Mae Dewi Wyn Williams, Gaernarfon a Ian Bell, o Bontarddulais wrthi’n teithio’r byd ac wedi cael tridiau lawn iawn yma yn y Gaiman a Threlew.
Ar ôl cyfarfod yn yr orsaf bws yn Nhrelew, cafwyd gyfle i fynd mewn i ddweud helo wrth blant Ysgol yr Hendre, yna draw i’r Gaiman i ymlacio cyn mynd i’r Bwthyn Bach yn y nôs. Ar ôl cyfarfod nifer o drigolion y Gaiman a siarad Cymraeg gyda phawb, cafwyd te yn Nhŷ Te Nain, cafwyd noson yn y Gymnasium lleol – lle roedd tua 600 o bobl yno ar gyfer Asado dathlu 125 Mlynedd ysgol Abraham Matthews ym Mryn Gwyn. Pob lwc i’r ddau ohonynt ar eu teithiau a siwrna sâff yn ôl i Gymru ym mis Awst.

23/06/2009