Ymwelydd o´r Unol Daleithiau

Daeth Bentley Snow, myfyriwr o Brifysgol Brigham Young yn Utah i´r Andes yn ddiweddar i ffilmio trigolion yr ardal fel rhan o´i brosiect ymchwil ar Gymry Patagonia a´r ymdrechion sy´n cael eu gwneud i warchod y diwylliant, ar gyfer ei rad. Mae wedi derbyn ysgoloriaeth i wneud y gwaith ac mae´n gwneud ei ymchwil ar ffurf ffilm a bu´n brysur yn ffilmio gwahanol bobl yn Nhrevelin ac Esquel. Mae gan Bentley wreiddiau Cymreig ac roedd wedi ei synnu gyda´r hyn oedd wedi ei ddarganfod ym Mhatagonia ac roedd am fynd ati i ddarganfod mwy am ei gysylltiadau Cymreig ar ôl mynd adref ac efallai dysgu ychydig o Gymraeg! Dywedodd y byddai´n fwy na hapus i roi copi o´i waith terfynol i ni, ac edrychwn ymlaen at dderbyn ei waith.

23/07/2009





