Menter ym Madryn!

Aeth Lois a Hywel i Borth Madryn i weld yr union fan lle glaniodd y fintai gyntaf ar fwrdd llond y Mimosa 144 o flynyddoedd yn ôl. Aethant i weld yr ogofeydd lle credir iddynt fod yn lloches cyntaf i'r Cymry ar ôl cyrraedd. Cawsant weld y gofgolofn sy'n enwi pawb oedd ar fwrdd y Mimosa ac yna mynd i'r amgueddfa i ddarganfod mwy o hanes.
02/08/2009





