Aduniad Coleg Camwy

Roedd dydd Sadwrn 8 Awst yn ddiwrnod prysur yn y Gaiman gan fod dathliadau y dref yn digwydd. Trefnwyd noson gyntaf Aduniad Coleg Cawmy yng Nghanolfan Arturo Roberts. Yn ystod y noson cafwyd amser i hel atgofion a chyfle i ymarfer eu Cymraeg drwy chwarae gemau. Roedd rhai heb ymarfer y Gymraeg ers rhai blynyddoedd, ond wrth i’r Cerveca lifo a’r bwyd ddiflanu roedd yr iaith yn dod yn ei ôl. Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi a mi gwelwn i chi mis nesaf
10/08/2009





