Cychwyn ar Menter Iaith Patagonia

Mae James Williams, 27 oed o Gaerdydd, a Dyfed Siôn, 37 oed o Aberaeron, yn hedfan i'r Ariannin ar 18 Ebrill i sefydlu menter iaith ym Mhatagonia.
Nhw fydd y ddau cyntaf i weithio ar gynllun Menter Patagonia.
Fe fydd James yn gweithio yng Nghanolfan Gymraeg yr Andes tra bydd Dyfed Siôn yn y Gaiman. Un o'u tasgau fydd sefydlu gwefan fydd yn rhoi rhestr o weithgareddau'r Wladfa - www.menterpatagonia.org.
Y nod yw dylanwadu ar bobl ifanc sy'n dysgu'r iaith i barhau i'w defnyddio ar ôl gadael ysgol.
Mentrau Iaith Cymru, yr Urdd, Cymdeithas Cymru Ariannin a'r Cyngor Prydeinig sy'n cefnogi'r cynllun.
Mae cwmni preifat Nos Da, Caerdydd, yn noddi'r cynllun.
'Ymateb gwych'
Aeth Meirion Davies o Fentrau Iaith Cymru i'r Wladfa yn gynharach eleni i sicrhau cefnogaeth ac adnoddau i'r cynllun.
"Roedd yr ymateb yn wych a bydd gan y ddau weithiwr gefnogaeth gref gan y gymuned Gymraeg lleol."
Cyn iddo fynd ar y daith dywedodd James: "Rydyn ni am annog pobl i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth.
"Mae'n union fel y mae'r Urdd a mentrau iaith yn ei gynnig yma, gweithgareddau fel chwaraeon, canu a dawnsio er mwyn dod â phobl at ei gilydd yn gymdeithasol."
Er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth am y prosiect newydd fe wnaeth James redeg Marathon Llundain ddydd Sul. Cwblhaodd y ras mewn 3 awr 35 munud gan lwyddo i godi £500.
Yn ei amser hamdden mae James yn mwynhau gweithgareddau awyr agored.
Mae ei ddiddordeb mewn mynydda, byrddio eira a syrffio wedi arwain at deithiau o amgylch y byd.
Cynllun cyfnewid
Mae 'na fwriad hefyd i sefydlu cynllun cyfnewid rhwng y ddwy wlad.
Ychwanegodd Meirion y byddai 22 o bobl ifanc chweched dosbarth yn mynd allan i Batagonia am bythefnos ym mis Hydref ac y byddai Dyfed a James yn gallu dod o hyd i lety a chyfleoedd iddyn nhw wneud gwaith gwirfoddol.
Mae'r cynllun yn darparu cyfleoedd i unigolion astudio a gweithio yng Nghymru.
Dywedodd Meirion: "Gallai hyn roi cyfleoedd i unigolion fod yn rhugl yn y Gymraeg ac arfer â'i defnyddio'n feunyddiol.
"Bydd yn creu mwy o ddiddordeb yn y Gymraeg yn y Wladfa, os oes cyfleoedd i ddod i Gymru.
"Rydym yn ymwybodol o sawl busnes sy'n awyddus i gyflogi siaradwyr Cymraeg ond sy'n cael trafferth cael hyd iddyn nhw."

19/04/2008