Sadwrn prysur yn y Gaiman

Ar ddydd Sadwrn heulog arall yn y Gaiman, Hydref 10, trefnwyd picnic i Blant a Rhieni yr Ysgol Feithrin ar fferm Llain Las. Cafwyd digon o fwyd a diod a digon o hwyl wrth i’r plant gael chwarae a chael cwrdd yr anifeiliaidi gyd. Cafwyd hwyl fawr wrth chwarae gyfa’r parasiwt hefyd. Ar ddiwedd y dydd cafwyd Helfa Drysor o amgylch y fferm. Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth.
Ar nos Sadwrn Hydref 10, cynhalwyd yr ail Sadwrn Siarad yn ysgol yr Hendre, Trelew. Cyfle i bawb i ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch tu allan i’r dosbarth. Mae’n amlwg mod i wedi siarad gormod achos does dim lluniau gen i!!! Diolch i bawb a ddaeth.

12/10/2009