|
|
Roedd hi'n fendigedig gweld Capel Bethesda o dan ei sang ddydd Sadwrn diwetha. Yn ystod y Gymanfa fisol, cynhaliwyd y ddefod o agor y neuadd newydd wrth ochr y capel gan Eileen James de Jones. Roedd hyn yn achlysur pwysig ac emosiynol i bawb, ac yn arbennig i Eileen a'i gŵr Dewi Mefin, oherwydd nhw oedd y pâr cynta i briodi yn y Capel hardd yma nôl yn y pumdegau. Byddan nhw'n dathlu 60 mlynedd o fywyd priodasol yn yr un flwyddyn â dathliadau mawr sefydlu'r Wladfa yn 2015. Diolch i bawb am fynychu'r digwyddiad arbennig ac i'r trefnyddion am wneud y gwasanaeth mor gofiadwy.
|