Noson Gŵyl Dewi
Cafwyd Noson Gwyl Ddewi yn Ysgol Gerdd y Gaiman Gymraeg wedi ei drefnu gan Bwyllgor Dosbarthiadau Cymraeg y Gaiman. Bu anerchiad diddorol am Ddewi Sant gan y Parch Canon Tegid Roberts, a llefaru barddoniaeth gan Nant Roberts. Roedd yr eitemau cerddorol gan yr unawdwyr Sylvia Baldor a Billy Hughes efo Hector Ariel Macdonald yn cyfeilio. Cafodd y gynulleidfa gyfle i ganu amryw o ganeuon Cymraeg dan arweiniad Edith Macdonald a darllenodd Clare Whitehouse neges Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones oedd wedi cael ei gyhoeddi yn Gymraeg yn y papur dyddiol El Chubut o Drelew.
Cafodd yr athrawesau Helen Roberts ac Eluned O. Evans a swyddog Menter Llinos Griffin eu cyflwyno i bawb a bu tamaid a llwnc wedi i´r gynulleidfa ganu Hen Wlad Fy Nhadau gydag arddeliad. Arweinwyd y noson gan Mrs Luned González. Cytunodd pawb bod hi wedi bod yn noson wych. Diolch yn fawr i bawb bu yn cymryd rhan, pawb a fu yn bresennol ac i´r Ysgol Gerdd am fenthyg yr adeilad

04/03/2010