Eluned yn cyrraedd yr Andes

Dyma fi wedi cyrraedd yr Andes erbyn hyn ar ôl treulio wythnos fythgofiadwy yn y Dyffryn. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael dau barti croeso yma – un yn Esquel a’r llall yn Nhrevelin. Fel un sydd â dant melys iawn, roeddwn i wrth fy modd yn blasu’r danteithion cartref a oedd yn llenwi’r bwrdd o un pen i’r llall! Profiad arbennig arall oedd cael y cyfle i gyflwyno myfi fy hun yn Sbaeneg ac yn Gymraeg ar radio FM Del Valle. Yn wir, rydw i wedi cael croeso arbennig yma ac mae pawb wedi mynd allan o’u ffordd i ‘ngwneud i deimlo’n gartrefol. Gracias a todos!
11/03/2010





