Cymorth.com Llinellau Ffôn Cymraeg

Newyddion 2

Llwyddiant yn yr Eisteddfod

Llwyddiant yn yr Eisteddfod
Llongyfarchiadau mawreddog i'r canlynol am eu llwyddiant yng nghystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes - 'Plentyndod hyd pymtheg oed':
1. Mary Green de Borda, Trevelin
2. Esther Evans de Hughes, Esquel
3. Eilyw Pritchard, Rivadavia
3. Nantlais Evans, Rio Negro
17/08/2010

Gwyl y Glaniad

Gwyl y Glaniad
Dyma Romina Azzolini yn adrodd hanes dathlu Gwyl y Glaniad yn Esquel eleni:
Roedd Cymdeithas Gymraeg Esquel wedi trefnu noson arbennig ar gyfer dathlu “Gŵyl y Glaniad”.
Roedd cant o docynnau wedi cael eu gwerthu o flaen llaw, felly roedd y ganolfan yn mynd i fod yn llawn bobl a oedd eisiau cwmni da a bwyd da.
Cig moch a chyw iâr efo pob math o salad oedd y meniw. Digon o ddiodydd a phwdin i bawb.
Ar ôl cael pryd o fwyd, dechreuodd Romina Azzolini werthu tocyn raffl, a phwy enillodd y wobr? Y deisen “MILHOJAS” gan Ami? Teulu Roy Roberts.
Roedd seremoni y Gadair hefyd. Yn ogystal, roedd Joyce Powel wedi paratoi gweithgareddau; roedd rhaid i bob bwrdd wneud acróstico am y pwnc cariad efo’r gair “bicentenario”. Enillydd y Gadair am iddo lunio acrostico hyfryd iawn oedd myfyriwr o’r enw Rafael Delgado. Fe wnaeth Lizzie Jones de Lloyd, Elda Griffiths de Gomez, Cristina Jones a Silvia Williams (plant bach yr ysgol) ddawnsio “Dawns y blodau” ac fe wnaeth Mrs. Graciela Bonansea ganu cân gwreiddiol iddo fo.
Dechreuodd Rafael ddysgu Cymraeg eleni efo grŵp Wlpan. Mae o’n dod o El Hoyo yn wreiddiol a mae cefndir Cymraeg gyda fo achos mae’n dod o deulu John Daniel Evans.
Wedyn, dechreuoedd Elda Griffiths de Gómez wahodd pawb i ganu caneuon traddoddiadol; roedd deuawd hefyd (Elda a Victor Saunders, Elda a Elvyn Roberts). Diwrnod hyfryd iawn!

Ac yn Nhrevelin, cawn yr hanes gan Isaías Grandis
Cafwyd Gŵyl y Glaniad llawn cerddoriaeth a dawns werin yn y Salón Central yn Nhrevelin eleni. Buodd Alejandro Jones, Marilyn Jones a’r plant yn canu. Yn ogystal, dangosodd grŵp ‘Cwm Hyfryd’ eu doniau dawnsio ar y llwyfan. Cafwyd darlleniadau diddorol a hyfryd gan Aldo Sangiovanni ac Alwen Green a chanodd gôr Ysgol Gerdd Trevelin. Ar ddiwedd y noson, canwyd Anthem Genedlaethol Cymru.
17/08/2010

Gwyl y Glaniad yn y Dyffryn

Gwyl y Glaniad yn y Dyffryn
Yn syth wedi i ni ddychwelyd o'n gwyliau gaeaf ar ddydd Mercher, 28 o Orffennaf, roedd hi'n wyl y Glaniad, ble mae trigolion yr ardal yn dathlu y diwrnod hwnnw y cyrhaeddodd y Cymry y Dyffryn! Cawsom ddiwrnod prysur a bu pawb yn yr ardal yn brysur iawn yn trefnu'r gwahanol ddathliadau.
Yn y bore, mynychais 'acto' i osod carreg sylfaen Ysgol yr Hendre ble bydd yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu, daeth llawer o blant, rhieni a staff ynghyd ar y bore oer hwn. Yn dilyn hyn, symudom i Neuadd Dewi Sant i glywed plant yr Hendre yn canu a grwp dawnsio gwerin 'Gwanwyn' yn perfformio yng ngwasanaeth yr wyl.
Yn y prynhawn, aethom i gapel Bryn Crwn am de bendigedig gyda thrigolion yr ardal a chael hwyl yn gwylio'r 'gauchos' yn rasio eu ceffylau!
Gyda'r nos, roedd cyngerdd mawreddog Rhys Meirion yn Teatro Espanol, Trelew ble bu Helen a minnau yn helpu i hebrwng y gynulleidfa i'w seddau. Roedd y theatr yn orlawn a pherfformiad Rhys Meirion yn un penigamp.
Yn y Gaiman, ar ddydd Gwener hefyd, mynychom de ym Mhlas y Coed i groesawu Rhys ac yna gyda'r nos, bu swper Gwyl y Glaniad yn Nhrelew ble bu pawb yn dawnsio twmpath a chanu.
Felly, bu'n wythnos eithaf prysur o ddathlu ac roedd yn amlwg fod gwaith trefnu gwerth chweil wedi bod i'r holl weithgareddau. Gobeithio i bawb gael Gwyl y Glaniad Hapus!
Gwyl y Glaniad yn y Dyffryn
05/08/2010

Nel yn helpu yn Nhrelew!

Nel yn helpu yn Nhrelew!
Hoffwn ddiolch o galon ar ran Ysgol yr Hendre, Trelew am help Nel Isaac a ddaeth yma i wirfoddoli am bythefnos. Helpodd gyda gwaith Menter hefyd gan fynychu fy sesiynau yn yr ysgol a hefyd dod i'r sesiwn ddarllen ym Mhorth Madryn. Mae hi bellach wedi ein gadael i fynd i Fuenos Aires. Mwynha dy hun, Nel!
05/07/2010

Croesawu Dafydd Huw Davies

Croesawu Dafydd Huw Davies
Fe wnaeth bawb fwynhau cwmni Huw yn yr Andes yr wythnos hon. Mae Huw wedi bod yn gweithio fel athro ym Mecsico ac yn gwbl rhugl yn y Sbaeneg ac fe benderfynodd alw i'n gweld ni yma ym Mhatagonia ar ei ffordd adre i Gymru. Y mae wedi bod yn mynychu gwersi Cymraeg Eluned, wedi cyfarfod a nifer o'r bobl leol, wedi bod yn sgio yn La Hoya ac wedi dod i'n hymarferion dawnsio gwerin. Mae un peth yn sicr, mae mwy o siap arno'n dawnsio nag Eluned! Dyma Huw yn son am ei wythnos gyda ni:
"Ers y tro cyntaf i mi glywed am y gymuned Gymreig yn yr Ariannin dw i wedi bod yn dychmygu pa fath o le yw’r rhan fach hon o Gymru sydd ochr arall y byd. Am tua’r dair mlynedd ddiwethaf dw i wedi bod yn breuddwydio am deithio i waelod De America i ddod gartref. Dw i wedi bod yn meddwl am gyrraedd gwlad ddieithr ond wrth gydfyw gyda fy mhobl, siarad fy mamiaith, yfed tê a bwyta cacennau Cymreig.

Dw i wedi cael croeso cynnes dros ben gan bob Williams, Jones ac Evans yn Esquel a Trevelin. Mae hi wedi bod yn anhygoel o ddiddorol dysgu am hanes y gymuned Gymreig yma yn yr Andes. Rhwng amgueddfa wych Trevelin a straeon bobl y dref dw i wedi cael gwir deimlad o sut oedd bywyd yma i’r Cymry cyntaf.

Dw i wedi gweld gwaith caled athrawon yr ardal i gadw iaith a thraddodiadau’r ardal yn fyw. Mae eu gwaith caled nhw gyda’r bobl ifanc wedi fy mhlesio’n ofnadwy gan fod dyfodol yr iaith Gymraeg yn eu dwylo nhw.

Ond mae hi’n glir bod athrawon yr ardal angen cymaint o gymorth ag sy’n bosib. Dw i fy hun yn benderfynol o roi gymaint o sylw ag a fedraf i’r gymuned Gymreig yma, er mwyn casglu arian ac adnoddau ar gyfer yr holl bobl sydd yn gweithio mor galed i gadw rhan fawr o hanes Cymru yn fyw".


17/08/2010

Eisteddfod Mimosa

Eisteddfod Mimosa
Ddydd Sadwrn, bu Eisteddfod lwyddiannus iawn ym Mhorth Madryn gyda rhai o blant y Gaiman a Threlew yn cystadlu'n frwd heb son am dwr o gystadleuwyr o Rawson ac wrth gwrs Madryn ei hun - rheini hefyd yn cystadlu yn y cystadlaethau Cymraeg. Cafodd Helen a minnau ein penodi fel beirniaid adrodd a phleser fu gwrando ar bob un o'r cystadleuwyr yn eu tro!
Braf hefyd oedd gweld Gareth Roberts, un o athrawon Cymraeg y Dyffryn yn ennill Tlws yr Eisteddfod am ei farddoniaeth ynglyn a sefyllfa'r Gymraeg yn y Wladfa. Mae hi wastad yn fwynhad gweld y Cymry yn cystadlu ac yn cymryd rhan yn Eisteddfodau'r Wladfa. Llongyfarchiadau anferthol i Gareth!

Rwyf hefyd wedi cyfrannu at Eisteddfod Mimosa 2011 gan ddewis holl destunnau adrodd, llenyddiaeth a'r darn i'w gyfieithu o'r Gymraeg i'r Sbaeneg ar gyfer y rhaglen. Gobeithio y bydd honno yn Eisteddfod yr un mor bleserus!


11/08/2010

Cyri a Chwis!

Cyri a Chwis!
Daeth 35 o bobl Drelew ynghyd nos Wener am gyri a chwis! Mae gennym gogyddion ardderchog yn ein plith a diolch o galon i Ana, Romina a Cecilia am y cyri cig, llysiau a chyw iâr - 'rico' dros ben! Wedi i ni lenwi ein boliau, cawsom gwis gyda rownd gyffredinol, rownd Cymru/Ariannin, rownd baneri'r byd yn sgil cystadleuaeth Cwpan y Byd a rownd cerddoriaeth i gloi!
Roedd rhai cystadleuwyr yn hollol ddi-glem ac eraill yn arbennig o ddeallus!
Tîm 'Espantapajaros' a ddaeth i'r brig! Llongyfarchiadau mawr!
Cyri a Chwis!
05/07/2010

Plant Trevelin

Plant Trevelin
Mae rai o blant Trevelin wedi bod yn brysur yn adeiladu cestyll yr wythnos hon a dyma Luciano bach gyda'i gampwaith e. Dydd Mawrth a dydd Iau bues i a'r pedwar 6-7 oed sy'n mynychu'r dosbarth plant yn brysur yn adeiladu castell yr un wrth ganu hwiangerddi ac adrodd - chwarae a dysgu ar yr un pryd! Cewch weld cestyll pinc y merched maes o law!
04/07/2010

 

Cliciwch i ddarllen rhifyn diweddaraf
Llais yr Andes
Llais yr Andes

 

Digwyddiadau

Menter Patagonia
Clwb Plant
Dolavon
18.30 - 19.30 Dydd Llun

Menter Patagonia
Cymraeg i Rieni yn y Gaiman - 15.30 - 16.30 bob pythefnos ar nos Lun (Gwahanol)
Gaiman
15.30 Dydd Llun

Menter Patagonia
Clwb Ôl-Feithrin
Ysgol Feithrin y Gaiman
17.00 - 19.00 Dydd Mawrth

Menter Patagonia
Clwb Arddegau
Ysgol yr Hendre, Trelew
20.00 - 21.00 Dydd Mawrth

Menter Patagonia
Clwb Ôl-Feithrin
Ysgol Feithrin y Gaiman
17.00 - 19.00 Dydd Iau

Menter Patagonia
Dosbarth Siaradwyr Trevelin. Dyma gyfle i sgwrsio yn Gymraeg am awr fach gyda phaned o de!
Ysgol yr Andes, Trevelin
17.00 Dydd Iau

Menter Patagonia
Clwb Plant Trevelin
Ysgol yr Andes, Trevelin
18.00 Dydd Gwener

Menter Patagonia
Dawnsio Gwerin
Y Felin, Trevelin
21:00 - 22:00 Dydd Gwener

Menter Patagonia
Dawnsio Gwerin
Canolfan Esquel
20:30-21:30 Dydd Gwener

Menter Patagonia
Clwb Arddegau
Gaiman
13.30 - 15.00 Dydd Gwener

Menter Patagonia
Cylch Ti a Fi
Canolfan Esquel
15:00 - 16:00 Dydd Gwener

Menter Patagonia
Clwb Sgwrs a Darllen -18.00 - 19.30 dydd Gwener olaf bob mis (Porth Madryn)
Porth Madryn
18.00 Dydd Gwener

Menter Patagonia
Sadwrn Sgwrsio. 18.30 yn Trelew a 19.30 yn Gaiman bob yn ail wythnos
Trelew a Gaiman (bob yn ail wythnos)
Hwyr Dydd Sadwrn

 

 

Os oes unrhyw un yn ymweld a'r Wladfa
neu'n dymuno rhagor o wybodaeth,
pediwich oedi rhag cysylltu gyda Lois a Hywel

Tafle Wybodaeth
Cliciwch i ddarllen y daflen wybodaeth

Menter Iaith Patagonia

Trevelin Esquel

Gaiman Trelew



Menter Patagonia
-