Gwyl y Glaniad yn y Dyffryn

Yn syth wedi i ni ddychwelyd o'n gwyliau gaeaf ar ddydd Mercher, 28 o Orffennaf, roedd hi'n wyl y Glaniad, ble mae trigolion yr ardal yn dathlu y diwrnod hwnnw y cyrhaeddodd y Cymry y Dyffryn! Cawsom ddiwrnod prysur a bu pawb yn yr ardal yn brysur iawn yn trefnu'r gwahanol ddathliadau.
Yn y bore, mynychais 'acto' i osod carreg sylfaen Ysgol yr Hendre ble bydd yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu, daeth llawer o blant, rhieni a staff ynghyd ar y bore oer hwn. Yn dilyn hyn, symudom i Neuadd Dewi Sant i glywed plant yr Hendre yn canu a grwp dawnsio gwerin 'Gwanwyn' yn perfformio yng ngwasanaeth yr wyl.
Yn y prynhawn, aethom i gapel Bryn Crwn am de bendigedig gyda thrigolion yr ardal a chael hwyl yn gwylio'r 'gauchos' yn rasio eu ceffylau!
Gyda'r nos, roedd cyngerdd mawreddog Rhys Meirion yn Teatro Espanol, Trelew ble bu Helen a minnau yn helpu i hebrwng y gynulleidfa i'w seddau. Roedd y theatr yn orlawn a pherfformiad Rhys Meirion yn un penigamp.
Yn y Gaiman, ar ddydd Gwener hefyd, mynychom de ym Mhlas y Coed i groesawu Rhys ac yna gyda'r nos, bu swper Gwyl y Glaniad yn Nhrelew ble bu pawb yn dawnsio twmpath a chanu.
Felly, bu'n wythnos eithaf prysur o ddathlu ac roedd yn amlwg fod gwaith trefnu gwerth chweil wedi bod i'r holl weithgareddau. Gobeithio i bawb gael Gwyl y Glaniad Hapus!

Nel yn helpu yn Nhrelew!
Hoffwn ddiolch o galon ar ran Ysgol yr Hendre, Trelew am help Nel Isaac a ddaeth yma i wirfoddoli am bythefnos. Helpodd gyda gwaith Menter hefyd gan fynychu fy sesiynau yn yr ysgol a hefyd dod i'r sesiwn ddarllen ym Mhorth Madryn. Mae hi bellach wedi ein gadael i fynd i Fuenos Aires. Mwynha dy hun, Nel!
Dawnsio Gwerin Trevelin
Mae'r ymarferion dawnsio gwerin yn mynd o nerth i nerth gyda phedwar ar ddeg ffyddlon yn ymuno yn yr hwyl yn wythnosol. Rhaid diolch yn fawr i Jessica Jones am ei brwdfrydedd a'i sgiliau dysgu gwych! Os fyddwch chi'n dod i Drevelin, dewch draw i Ysgol y Felin am 8:30 ar nos Iau i'n gweld ni!
CWRDD LLENYDDOL TRELEW
Cawsom Gwrdd Llenyddol eto y mis hwn gyda darlleniad gan Gweneira Davies o'i gwaith buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2009. Cynhelir y Cwrdd ar ddydd Gwener olaf bob mis yng Nghapel Tabernacl, Trelew - fe'i drefnir gan Yr Orsedd, a minnau yn helpu gyda'r lluniaeth a'r te!
Rydw i'n gobeithio i bawb fwynhau a diolch i bawb am eu cyfraniadau blasus!
Welwn ni chi mis nesaf!
Cyri a Chwis!
Daeth 35 o bobl Drelew ynghyd nos Wener am gyri a chwis! Mae gennym gogyddion ardderchog yn ein plith a diolch o galon i Ana, Romina a Cecilia am y cyri cig, llysiau a chyw iâr - 'rico' dros ben! Wedi i ni lenwi ein boliau, cawsom gwis gyda rownd gyffredinol, rownd Cymru/Ariannin, rownd baneri'r byd yn sgil cystadleuaeth Cwpan y Byd a rownd cerddoriaeth i gloi!
Roedd rhai cystadleuwyr yn hollol ddi-glem ac eraill yn arbennig o ddeallus!
Tîm 'Espantapajaros' a ddaeth i'r brig! Llongyfarchiadau mawr!
Plant Trevelin
Mae rai o blant Trevelin wedi bod yn brysur yn adeiladu cestyll yr wythnos hon a dyma Luciano bach gyda'i gampwaith e. Dydd Mawrth a dydd Iau bues i a'r pedwar 6-7 oed sy'n mynychu'r dosbarth plant yn brysur yn adeiladu castell yr un wrth ganu hwiangerddi ac adrodd - chwarae a dysgu ar yr un pryd! Cewch weld cestyll pinc y merched maes o law!
Ysgol Peniel, Caerfyrddin yn cyfweld Eluned
Yn ddiweddar fe wnes i siarad â disgyblion Blwyddyn 1 a 2 Ysgol Peniel, Caerfyrddin ar Skype. Roedd dosbarth Miss Emma McKenna yn dathlu Wythnos De America ac roedd llu o weithgareddau wedi cael eu trefnu ar eu cyfer yn ystod yr wythnos. Fe fuon nhw`n coginio Cacen Ddu a chawson nhw wersi Tango gyda chwmni dawns o Rydaman, Footloose. Fel y gwelwch o`r lluniau, cawson nhw amser wrth eu boddau! Roedd y plant wedi paratoi cwestiynau arbennig o dda ar fy nghyfer i – fe wnaethon ni drafod y tywydd, y bywyd gwyllt yma`n yr Andes, pam oeddwn i wedi penderfynu mynd i Batagonia a beth oeddwn i`n ei golli am Gymru. Yr ateb oedd Baked Beans!
Bellach, mae parsel llawn syrpreisys, lluniau a llythyron oddi wrth blant Ysgol Gymraeg Trevelin ac Esquel ar ei ffordd i Gymru ac mae parsel ar y ffordd i Batagonia o Gaerfyrddin! Edrychaf ymlaen at gael siarad â chi eto cyn bo hir blant!
Eluned Owena Evans
Clwb Gwawr Trevelin
Nos Iau diwethaf, ar noson oer ddychrynllyd, aeth criw ohonom ni i fwyty Nikanor yn Nhrevelin, bwyty modern, newydd sy'n rhoi pwyslais ar gynnyrch lleol a ffres. Roedd hen ddigon o sgwrsio a chwerthin yn ystod y noson ac roedd y ffaith ein bod ni wedi cael platiad enfawr o fwyd yr un yn fonws ychwanegol yn fy marn i! Fe fydd Clwb Gwawr yn cwrdd yn fisol ac felly os oes chwant arnoch chi ymuno gyda ni, peidiwch ag oedi rhag cysylltu gydag Eluned.