Newyddion Menter Patagonia
		<language>en</language>
		<sy:updateFrequency>1</sy:updateFrequency>
Clwb Plant Trevelin
<description>Ddoe cafwyd llawer o hwyl yn y clwb y Plant yn Nhrevelin. Mae’r Pasg yn agosau, felly penderfynais ei ddathlu yn y clwb. Roedd yn rhaid i’r plant ddilyn cliwaiau a mynd o un man i’r llall, er mwyn darganfod yr wyau pasg oedd yn eu disgwyl ar ddiwedd yr helfa. 28/3/2012 </description>
Sushi gyda'r Ifanc
<description>Nos Wener daeth criw at ein gilydd yn Nhrevelin. Criw ifanc i ymarfer ychydig o Gymraeg, bwyta a chael hwyl. Ar y fwydlen roedd sushi, a phitsa i’r rhai nad oedd yn hoff o’r bwyd tramor. 21/3/2012 </description>
Nadolig yn yr Haul
<description>Mae hi’n anodd teimlo’n Nadoligaidd pan fo’r haul yn tywynu a minnau yn cerdded o le i le mewn crys-t, shorts a fflip-fflops, ond ar ddydd Sul y gwasanaeth Nadolig yr ysgol a’r swper roedd yna naws hudol yn yr awyr. 27/12/2011 </description>
Mi Casita
<description>Yn y noson cwis roeddem wedi casglu arian tuag y warchodfa plant. Mae Mi Casita yn elusen lleol sydd yn gwneud gwaith gwerthfawr iawn yn y gymuned, yn rhoi cymorth a chefnogaeth i blant. 19/12/2011 </description>
Hysbysebu
<description>Ar ddiwedd parti diwedd tymor yn Esquel roedd nifer o falwnau ar ôl – rhai coch, gwyn, gwyrdd, melyn a glas golau sef lliwiau y faner Archentaidd a Chymraeg. Fe benderfynom fynd a rhoi y balwnau i blant ar y stryd, a hysbysebu ar gyfer y flwyddyn nesaf gyda pamffledi. 19/12/2011 </description>
CD Menter Patagonia
<description>Yn ddiweddar mae Elen Llwyd Roberts o Llanelwy wedi bod yma yn gwirfoddoli gyda’r Fenter. Merch 24 sydd yn teithio De America, cyn symud i fyw i Brasil am flwyddyn. Mae hi wedi bod yn helpu gyda amrywiaeth o bethau yn ystod y bythefnos. 5/12/2011 </description>
Cerdded
<description>Roedd hi’n ddiwrnod godidog yn yr Andes ddydd Sadwrn, ac roedd yn ddiwrnod perffaith i fynd i gerdded. Aeth criw bach ohonom am dro o’r ysgol at y fynwent sydd tua 4 km o Drevelin. 13/11/2011 </description>
Noson Gyri Esquel 
<description>Mae’r Eisteddfod wedi mynd a dod, mae’r tywydd wedi gwella ac mae diwedd y tymor yn agosáu. Penderfynais gynnal noson gyri yn Esquel y tro hwn. Roedd pawb yn eiddgar at y noson ac yn edrych ymlaen at gael bwyta cyri (nid yw’n beth cyffredin iawn yma). 4/11/2011 </description>
Eisteddfod yr Wladfa
<description> Fel pob blwyddyn  aeth car3/11/2011 </description>
Criw’r Urdd yn yr Andes
<description>Eleni criw o’r Gogledd ddaeth yma i helpu yn y Wladfa. Gwnaethant lawer o weithgareddau ar y cyd gyda’r cymunedau lleol yn Esquel a Threvelin. Nos Iau yn syth ar ôl i’r criw gyrraedd, cynhaliwyd twmpath dawns gyda’r dawnswyr gwerin lleol yn Nhrevelin a disgyblion sy’n dysgu Cymraeg. 2/11/2011 </description>
Sadwrn Siarad
<description>Aeth Menter Patagonia i Borth Madryn yn ddiweddar, a daeth deg ohonom ni at ein gilydd yn Nhŷ Toschke ar gyfer ‘Sadwrn Siarad’.  Ar ôl i bawb gyflwyno’u hunain a dod i adnabod ein gilydd yn well trwy weithgareddau sgwrsio, daeth rhai o’r gwragedd â brecwast i’r bwrdd – galwyni o de, a phlatiau o fara menyn a tharten gennin. 14/9/2011 </description>
Ymweliad Rhiannon Williams
<description>Roedd Rhiannon Williams, a Huw ei gŵr, wedi dod yma i Dde America ar eu mis mêl. Yn garedig iawn roedd Rhiannon wedi cynnig perfformio darn o’i pherfformiad ar ei hatgofion o’r capel, a oedd hi wedi ei wneud ar gyfer ei Phd. 13/9/2011 </description>
Eisteddfod Ddwl y Gaiman!
<description>Gydag Eisteddfod y Bobl Ifanc ac Eisteddfod y Wladfa rownd y cornel, daeth cyfle’n ddiweddar i ddangos doniau tra gwahanol mewn eisteddfod go arbennig.  Doedd hon ddim yn eisteddfod gyffredin, ond yn Eisteddfod Ddwl!
Daeth criw da i Gwalia Lân, a rhannwyd yn ddau dîm - ‘Tello’ a ‘Fontana’ – a thasg anodd iawn i’r beirniad, Nia Griffith, oedd dewis enillwyr o blith y cystadleuwyr gwallgof!  Mae ’na bobl dawnus dros ben yn byw yn Nyffryn Camwy. 13/9/2011 </description>
‘Steddfod Ddwl
<description>Cawsom gyfle i fod yn ddwl unwaith eto, ond y tro yma yn Nhrevelin. Cyn cychwyn ar y cystadlu roedd yno lobsgóws neu gawl er mwyn llenwi’n boliau a chael digon o egni ar gyfer perfformio. 12/9/2011 </description>
Graffiti Cymraeg
<description>Cafodd plant ysgol Trevelin gyfle unwaith eto i gydweithio gyda chriw o Rincon del arte. Roeddem eisiau i’r plant gofio a meddwl am bwysigrwydd y goedwig yma ym Mhatagonia, felly fe wnaeth y plant graffiti gyda rhai o enwau o’r pethau sydd yn y goedwig – megis coed, cerrig, moch gwyllt, adra, hedd a hud. 11/9/2011 </description>
Crys Cymru
<description>Enillydd diweddaraf o'r gystadleuaeth yn 'Llais yr Andes' ydi Diana Mateos o Esquel. Llongyfarchiadau iddi ar ennil crys rygbi Cymru!5/9/2011 </description>